Y Dywysoges Margaret | |
---|---|
Ganwyd | Y Dywysoges Margaret Rose of York 21 Awst 1930 Castell Glamis |
Bedyddiwyd | 30 Hydref 1930 |
Bu farw | 9 Chwefror 2002 o strôc Ysbyty'r Brenin Edward VII |
Man preswyl | Piccadilly, Royal Lodge, Palas Buckingham, Clarence House, Palas Kensington |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pendefig, cymdeithaswr |
Tad | Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig |
Mam | Elizabeth Bowes-Lyon |
Priod | Antony Armstrong-Jones |
Partner | Roddy Llewellyn |
Plant | David Armstrong-Jones, Sarah Chatto |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwobr/au | Uwch Groes Urdd y Goron, Urdd Coron India, Cadwen Frenhinol Victoria, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, Urdd Sant Ioan, Urdd Teulu Brenhinol Siôr VI, Urdd Teulu Brenhinol Elisabeth II, Urdd y Goron Werthfawr, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Bonesig Uwch Groes Urdd y Fictoria Frenhinol, Gwobr Coroni'r Frenhines Elizabeth II, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon |
Gwefan | https://www.royal.uk/princess-margaret |
Roedd y Dywysoges Margaret (21 Awst 1930 – 9 Chwefror 2002), Iarlles Snowdon, yn aelod o deulu brenhinol Lloegr ac yn chwaer iau i'r Frenhines Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig. Roedd Margaret yn adnabyddus am ei ffordd dadleuol a moethus o fyw ac roedd yn ffigwr poblogaidd yn Lloegr yn ystod y 1950au a'r '60au. Roedd hi hefyd yn gerddor medrus ac yn noddwr y celfyddydau.
Ganwyd hi yng Nghastell Glamis yn yr Alban yn 1930, a bu farw yn Ysbyty'r Brenin Edward VII yn Marylebone, Llundain. Roedd hi'n blentyn i'r Brenin Siôr VI ac Elizabeth Bowes-Lyon. Priododd hi Antony Armstrong-Jones, a grewyd yn Iarll Snowdon pan briodasant. Gwahanon nhw yn 1976 ac ysgaru yn 1978.
Yr oedd eu plant:
Bu farw Margaret yn yr Ysbyty Brenin Edward VII's, Llundain, yn 71 oed, ar ôl dioddef sawl strôc. Mae Ffordd y Dywysoges Margaret ym Mhort Talbot wedi ei henwi ar ei hôl.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw archifau sy'n ymwneud â'r Dywysoges Margaret.