The Vamps

The Vamps Wake Up World Tour London 2016

Band pop roc yw The Vamps, a'r aelodau yw Bradley Simpson, James McVey, Connor Ball, ac Tristan Evans. Enillodd y band enwogrwydd ar ddiwedd 2012 gyda chaneuon a uwchlwythwyd ganddynt i YouTube. Cafodd y band ei arwyddo i Mercury Records yn 2012, gan gefnogi McFly ar eu Taith Memory Lane, ar ddechrau 2013, a perfformion nhw o gwmpas y Deyrnas Unedig yn cefnogi gwahanol artistiaid fel Taylor Swift, Selina Gomez, Little Mix ac eraill. Erbyn hyn maent wedi rhyddhau tri albwm.

Hanes

2011-2012: Ffurfio'r Band: Roedd James McVey yn barod yn cael eu reoli gan Richard Rashman ac Joe O'Neill o Prestige Management cyn penderfynu ffurfio band. Mi wnaeth James darganfod Bradley Simpson yn 2011 trwy YouTube. Gyda'i gilydd, ysgrifennodd y pâr ganeuon tuag at fisoedd diweddarach 2011, gyda Bradley Simpson wedyn yn dod yn brif ganwr. Yn 2012 wnaeth Bradley ac James cyfarfod Tristan Evans trwy Facebook. wnaeth y tri ohonynt wedyn cyfarfod Connor Ball trwy ffrind. Yng nghanol 2012, dechreuodd y band lwytho caneuon i YouTube. Erbyn mis Hydref cawsant eu disgrifio fel band bachgen newydd, gyda sylw arbennig i'w perfformiad YouTube o gân One Direction.

2013-2014: Ar 22 Gorffennaf 2013, llwythwyd y gân wreiddiol gyntaf gan y band sef "Wild Heart" i YouTube, wnaeth y can derbyn dros 46,000 golygfeydd o fewn y ddau diwrnod cyntaf. Ar 6 Awst 2013, fe wnaethon nhw ryddhau'r fideo cerddoriaeth ar gyfer eu sengl gyntaf "Can We Dance", a gafodd dros 1 miliwn o golygfeydd o fewn pythefnos. Rhyddhawyd "Can We Dance" ar 29 Medi 2013 ac wnaeth cyraedd rhif dau ar Siart Unigol y DU ar 6 Hydref 2013. Ar 19 Tachwedd 2013 cyhoeddodd y band y byddent yn rhyddhau eu halbwm cyntaf o gwmpas y Pasg.

Aelodau

Mae Bradley Will Simpson (a enwyd 28 Gorffennaf 1995) o Sutton Coldfield, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Lloegr. Mae o yn canu lleisiol arweiniol ac mae'n chwaraeu gitar.

Mae James Daniel McVey (a enwyd 30 Ebrill 1994) o Bournemouth, Dorset, Lloegr. Ef yw'r gitarydd arweiniol ac mae o yn canu lleisiau cefnogol.

Mae Connor Samuel John Ball (a enwyd 15 Mawrth) o Hatton, Swydd Warwick, Lloegr. Mae o yn chwarae gitar bas ac mae'n canu lleisiau cefnogol.

Mae Tristan Oliver Vance Evans (a enwyd 15 Awst) o Gaerwsg, Dyfnaint, Lloegr. Mae o yn chwarae drymiau ac mae'n canu lleisiau cefnogol.