Dystopia neu amharadwys yw cymuned neu gymdeithas sy'n annymunol neu'n frawychus.. Daw'r gair 'dystopia' o'r Groeg δυσ- "drwg" and τόπος "lle"; gall hefyd gael ei alw yn cacotopia neu wrth-iwtopia.
Mae cymdeithadau dystopaidd yn ymddangos mewn nifer o weithiau celf, yn arbennig mewn straeon sy'n cael eu gosod yn y dyfodol. Enghraifft adnabyddus yn y Gymraeg yw Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Ellis. Mae enghreifftiau enwog yn Saesneg yn cynnwys Nineteen Eighty-Four gan George Orwell a Brave New World gan Aldous Huxley. Mae dystopias yn aml yn cael eu nodweddu gan ddad-ddyneiddio, llywodraethau sy'n teyrnasu drwy ormes, trychinebau naturiol, a nodweddion eraill sy'n cael eu cysylltu â ddad-feiliad cataclysmig mewn cymdeithas. Mae cymdeithasau dystopaidd yn aml yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at gymdeithas, yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, economeg, crefydd, seicoleg, moeseg, gwyddoniaeth neu dechnoleg. Mae rhai awduron yn defnyddio'r term i gyfeirio at gymdeithasau'r presennol, rhai sydd fel arfer yn, neu wedi bod yn, wladwriaethau neu gymdeithasau totalitaraidd.
Mae rhai ysgolheigion, fel Gregory Claeys a Lyman Tower Sargent, yn nodi gwahaniaethau penodol rhwng geiriau sy'n cael eu hystyried yn gyfystyr â dystopia. Er enghraifft, me Claeys a Sargent yn diffinio dystopiâu llenyddol fel cymdeithasau dychmygol sy'n sylweddol waeth na'r gymdeithas mae'r awdur yn perthyn iddi, tra bod gwrth-iwtopiâu yn gweithredu fel beirniadaeth o ymdrechion i weithredu gwahanol gysyniadau o iwtopia.
|deadurl=
ignored (help)